Thomas Fraser

Ar ôl hir ymaros, rwy' wedi cael y CD y bues i'n aros amdano ers mis ar ôl darllen yr erthygl ddiddorol hon yn Observer Music Monthly, sef Long Gone Lonesome Blues gan Thomas Fraser. Anhygoel clywed dyn o Ynysoedd Shetland yn dehongli ac yn rhoi ar drac yr holl ganeuon 'ma gafodd eu sgwennu a'u perfformio filoedd o filltiroedd yn ôl, mewn ffordd unigryw a theimladwy.

Dyma un trac bach y des i o hyd iddo fe - os y'ch chi'n hoff o Hank Williams a phobl debyg, rheidrwydd yw prynu'r albwm.