Casnewydd

Meh. Y tro dwetha i fi geisio blogio, roedd 'na ryw broblem gyda blydi Blogger, felly nid fy mai i yw'r peth. Ta beth, weles i hwn heddi, sef ymgais y BBC at gasglu safbwyntiau pobl am Gasnewydd. Fi'n cymryd y bydd llawer o sylwadau cadarnhaol gan gwmnïau concrit, ond dim rhyw lawer yn fwy 'na hynna.

Ers i fi sgwennu ddwetha, fe ddes i'n enwog, bues i i Oxegen i weld yr anhygoel Sigur Ros ymysg eraill (do, fues i'n fawning basdad wrth eu gwylio nhw), a fi newydd shafio ngwallt i i gyd bant (wel, Ifan nath wir) er mwyn osgoi gormod o ben-wres yn y Sesiwn Fawr penwythnos 'ma.

Hefyd, fues i'n rhoi rhai safbwyntiau ar y we Gymraeg (gan mod i'n *ahem* arbenigwr) i ferch hyfryd o'r enw Elin Gyrman (Poj, beth yw ei chyfenw hi 'to) ar gyfer ei thraethawd hir ar ddefnydd o'r Gymraeg yn y cyfryngau. Felly, os chi'n nabod hi, siaradwch 'da hi am y peth.

O, a chofiwch hwn os byddwch chi yn Dog Jelly dros y penwythnos...

2 Comments:

Blogger Rhodri yn dweud...

Ella dylsa hi siarad â Mercator, da ni yng nghanol ysgrifennu llyfryn ar y cyfryngau Cymraeg. Gaiff o ddim ei gyhoeddi am tua deufis arall ond dwi'n siwr gallwn ni helpu.

Anfon fy ebost ati os tisio.

Dog Jelly wir! Tsk

10:24 AM  
Anonymous Poj yn dweud...

Tomos yw ei henw hi fi'n kredu.

10:39 AM  

Ychwanegu sylw

<< Hafan