Fionn Regan
Fodd bynnag, perfformiad Fionn Regan wnaeth fy hudo i fwyaf, gyda pherfformiad Nick Drakeaidd a straeon Cohenaidd (iawn, sori, 'na i drio peidio â'i gymharu fe ormod ag artistiaid eraill: roedd e'n unigryw yn ei ffordd ei hun). Dyma ambell drac ar My Old Kentucky Blog i'r rheiny ohonoch chi sy'n meddwl mai gwaith y diafol yw My Space, neu fan hyn i weld perfformiad ar deledu RTE. Ie, Gwyddel oedd y cyfaill; halen y ddaear, craic, bla bla bla.
Blinder. Gwely. Ffarwel.
O.N. Do, fe fuon ni mor blentynaidd â chwerthin at y ffaith fod ganddo fe enw merch. He he! Ffion!
2 Comments:
Rhyw fath o 'roc epig' sydd gan y band i'w gynnig, ac roedd y perfformiad yn ddigon i sigo hen sinig (Duw, oes 'na gynghanedd fyna'n rhywle?)
NAGOES
Diolch, Ioro. Gyda ti, s'dim angen rhoi'r dafod yn y foch...
Ychwanegu sylw
<< Hafan