BE, MMJ ac SFA

Ymddiheuriadau unwaith eto am y diffyg blogio. Fodd bynnag, am i chi fod yn amyneddgar (neu falle ddim), dyma anrheg bach, fel tusw o flodau o garej neu focs o siocledi gwael... oce, na, mae fel modrwy ddiamwnt, gyfeillion! Bright Eyes, boi o My Morning Jacket a Gruff Rhys gyda'i gilydd! Fi'n disgwyl i chi ofyn i fi briodi chi'n fuan... Disgwyliaf yn eiddgar.

Ac i gloi, mae Lloegr yn crap, a fyddan nhw byth yn ennill Cwpan y Byd, ddim os gwna nhw drio am filiwn o flynyddoedd 'to. Wir.