Wikimapia

Wel, mae'r twpsyn 'ma gartre ar hyn o bryd o'r gwaith, ar ôl llwyddo i dynnu cyhyr yn fy nghefn brynhawn dydd Sadwrn. Yn ffodus, ro'n i yn fy stafell wely, ac felly, mewn poen aruthrol, fe lwyddes i i gael fy hun ar fy ngwely, cyn gorwedd 'na am y deg awr nesa' nes i'r boen leddfu ddigon i allu cerdded i'r gegin i nôl gwydraid o ddwr. Wrth gwrs, dyw hyn heb wneud unrhyw beth i fy mhryderon am heneiddio, yn wir, mae wedi llwyddo i waethygu fy nheimladau!

Ho hym, wel, ta beth. Fe weles i hwn, sef Wikimapia (dylai'r ddolen ganolbwyntio ar Gaerdydd), sy'n eich galluogi chi i roi eich disgrifiadu eich hun o wahanol lefydd yn y byd. Oes unrhyw un mwy technolegol ddeallus (Rhys, Nic, Dafydd) yn gwybod sut mae creu tudalen i ddechrau disgrifiadau Cymraeg?

Swyddogion datblygu i'r Gernyweg

Fe ges i e-bost oddi wrth gyfaill oedd ar yr un cwrs â fi yn y brifysgol yn dweud ei bod hi newydd gael ei phenodi'n un o ddau swyddog datblygu i'r Gernyweg. Maen nhw newydd gael arian gan San Steffan a Senedd Ewrop er mwyn ariannu'r swyddi, sydd heb os yn gam pwysig ymlaen i'r iaith.

Un bocs o fatsys...

Ar ôl clywed am gamp One Red Paper Clip o gael ty yn gyfnewid am un clip papur coch, rwy' wedi penderfynu mynd ar antur debyg. Ddoe, fe lwyddes i i gyfnewid bocs o fatsys o westy crand One Aldwych am flodfresych, felly os oes gan unrhyw un rywbeth i'w gynnig am flodfresych, mae croeso i chi gysylltu â fi. Y nod yn y pen draw yw cael bod yn archdderwydd, ymddeol, ac anfon llythyrau hirwyntog a diflas i bapurau bach dinod. Hwre!

(O.N. Mynnwch gopi o'r rhifyn diweddaraf o'r Ddraig Goch, papur y Blaid, am hanesyn bach difyr am y twlsyn y cyfeirir ato uchod.)

Rhodri Morgan ar goll

Mwy o bethau da gan You Tube. Dim syniad pwy sy'n gyfrifol am hwn.

Y degfed dimensiwn

Wedi penderfynu symud unwaith eto, gan symud mewn gyda fy nghefnder. Felly dylai fod mwy o gyfle i fi flogio yn y dyfodol agos, yn enwedig gyda'r hydref ar ei ffordd. Gyda llaw, ai fi yw'r unig un sydd wir yn edrych mlaen i'r hydref ar hyn o bryd? Mae'n cynhesu fy nghalon i weld y nosweithiau'n mynd yn hwy, ac mae'r got Peter Storm bellach wedi'i thynnu o'r cwpwrdd.

Reit, ta ta tan toc. Yn y cyfamser, triwch gael crap ar hwn.

Dim Lol

Bwahahahaha! Newydd wylio'r fideo hwn am y tro cynta'. Hoff iawn o'r trosleisio dilornus braidd, er fy mod i'n eithaf hoff o'r cylchgrawn ar y cyfan.

O gymharu, ewch man 'yn (wedyn 'gwrando eto> C2 nos Fawrth> 25 munud) am ddadansoddiad dwys o natur ôl-foderniaeth a hanfod bywyd. Ai dyna shwt fi'n swnio?

Cwis nos fory!

Ie, ie, ie, nôl o'r Steddfod ond yn dal i ddiodde. Na, wir nawr, dal i ddiodde. Fi'n meddwl bod yn ddirwestwr. Owff.

Ta beth, dyma nodyn byr i ddweud y bydd cwis nos fory yn y Goat Major fel rhan o Daith Deddf Iaith Newydd am wyth o'r gloch. Dim ond fi fydd yn gyfrifol am hwn, felly s'dim poster hyfryd i'w bostio, gan mai Mair yw'r gwir athrylith evil boll weevil tu ôl i'r fenter 'ma. Cafflwr wyf.

Pryd caf i weld fy enw i mewn neon yn y nen?

Sai'n credu y bydd unrhyw un yn sylwi oherwydd gosteg cymharol y blog 'ma ers tro bellach, ond fe fydda' i'n mynd i'r Steddfod fory tan ddydd Sadwrn, felly bydd digon tawedog fydd y rhith-fi 'to. Dyma ambell uchafbwynt y byddwch chi'n siwr o fy ngweld i yno...

Pictiwrs ddydd Mercher a ddydd Gwener (o'n i'n methu mynd heddi) ar y Maes ac yn y Glamorgan Arms

Digonedd o gigs Cymdeithas yr Iaith (gan gynnwys dy fand di, Meirion!)

Ac, wrth gwrs, y blog gwrdd ddydd Sadwrn yng nghwmni'r cyd-saddos flogwyr ar y Maes.

O ie, a bydda' i'n siwr o nôl fy nghopi o Dim Lol i weld pwy sy'n ei chael hi a phwy fydd yn... (golygwyd er mwyn arbed fy nghroen fy hun).

Joiwch, blantos!